Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2019
Amser:
08.30 -
09.05
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Cwestiynau'r Llefarwyr i'r Cwnsler Cyffredinol
Wedi trafod â'r Rheolwyr Busnes, penderfynodd y Llywydd y dylid cael slot amser Cwestiynau'r Llefarwyr yn ystod Cwestiynau Llafar y Cynulliad i holi'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit.
Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gael sesiynau Cwestiynau Llafar ar wahân ar gyfer rôl y Cwnsler Cyffredinol a rôl Gweinidog Brexit fel ei gilydd, a nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael nodyn pellach gan Lywodraeth Cymru yn esbonio rôl a statws y Cwnsler Cyffredinol a rôl a statws Gweinidog Brexit.
Hefyd, cododd y Rheolwyr Busnes y mater o ran sut y gallent ofyn cwestiynau llafar i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip.
Nododd y Trefnydd y bydd dogfen yn cynnwys Cyfrifoldebau Gweinidogion yn cael ei hanfon heddiw, ond dywedodd na fyddai'n nodi sut y câi'r rhaniad ei wneud yng nghyfrifoldebau Gweinidogion a'u Dirprwyon. Gofynnodd Rheolwyr Busnes i Lywodraeth Cymru ystyried ymhellach y gwahaniaeth cyfrifoldebau rhyngddynt mewn sesiynau Cwestiynau Llafar, yn enwedig ar gyfer cwestiynau'r llefarwyr. Nododd y Rheolwyr Busnes eu tybiaeth y dylid cyfeirio holl gwestiynau'r llefarwyr at y Gweinidog perthnasol yn y cyfamser.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Dyddiadau ar gyfer dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai'r ddau ddyddiad nesaf ar gyfer dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau fydd 30 Ionawr a 3 Ebrill, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Busnes y tymor diwethaf i gyhoeddi'r ddau ddyddiad ar gyfer unrhyw dymor yn gynnar er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i Aelodau gyflwyno cynnig.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 –
Dydd Mercher 6 Chwefror 2019 –
NNDM6919
Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyn-weithwyr Allied Steel and Wire dal heb gael gwerth llawn eu pensiynau, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.
2. Yn nodi o dan cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, addawyd yr un driniaeth i weithwyr â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol fod gan weithwyr yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.
Cefnogwyr:
Andrew RT Davies
Mike Hedges
Helen Mary Jones
Leanne Wood
Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r memorandwm atodol hwn at y pwyllgorau sydd eisoes yn ystyried y memorandwm cyntaf (NHAMG, MADY a MCD), gyda'r un dyddiad cau, sef 12 Chwefror.
Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd yr eitem hon, gan mai'r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.
Yn dilyn y ddau ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor MCD a'r Pwyllgor NHAMG, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor MCD ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, ond cytunodd i ddychwelyd maes o law i'r amserlen a gynigiwyd yn sgil y sylwadau yn llythyr y Pwyllgor MCD ynghylch cael ymestyn yr amserlen ar gyfer Craffu Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl
Presenoldeb Gweinidogion yn y Siambr
Atgoffodd y Llywydd y Trefnydd fod angen i Weinidogion fod yn y Siambr ar amser ar gyfer eu heitemau, yn dilyn achlysuron lle bo rhaid galw ar Weinidogion i ddod i'r Siambr ar ôl i eitem ddechrau, ac ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gyrraedd yn hwyr ar gyfer ei ddadl ei hun yr wythnos diwethaf.
Newid aelodaeth Pwyllgorau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau gan eu hychwanegu at yr agenda yfory, yn dilyn ceisiadau gan y Grŵp Llafur a Grŵp y Ceidwadwyr.
Mae newidiadau'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys ethol aelod newydd i'r Pwyllgor CLlCh, yn lle un o Aelodau Plaid Cymru, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Busnes y tymor diwethaf.
Casglu Canllawiau
Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd papur ar Gasglu Canllawiau ar agenda'r cyfarfod wythnos nesaf, ac meddai y gallai'r Rheolwyr Busnes fod am drafod hyn â'u grwpiau ymlaen llaw.